![]() | ||
KATHY
GITTINS
?>Datganiad at sylw di-oed y
Wasg
'10 MLYNEDD
ANHYGOEL’
Nid Tony Blair yw’r unig un sy’n dathlu deng mlynedd y mis hwn. Ydy hi wir yn 10 mlynedd ers i Kathy lansio ei chasgliad cyntaf o luniau dyfrlliw gwreiddiol, printiau argraffiad cyfyngedig a chardiau cyfarch, yn cynnwys y lluniau bywyd llonydd o lestri Cymreig sydd mor nodweddiadol o’i gwaith? Ers hynny, mae taith y fam sengl i bedwar o blant wedi mynd â hi o’r arddangosfa gyntaf honno yn y ‘Walls’ yng Nghroesoswallt, trwy gyffro a drama Oriel Tŷ Cornel ym Meifod, ac yna ymlaen i greu enw iddi’i hun yn fyd-eang (mae’r Japaneaid yn arbennig o hoff o’i gwaith!) fel arlunydd sefydlog sy’n cyhoeddi ei gwaith ei hun yn ddwyieithog, hyd at lwyddiant ysgubol oriel newydd Kathy Gittins ym Mhwllheli. Bydd cyfle hefyd i edmygwyr gwaith Kathy i gwrdd â hi a gweld ei phrosiect diweddaraf yn Neuadd Morgannwg yn Sioe Frenhinol Cymru ac yn y Neuadd Arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yr haf hwn. Cyflawnwyd hyn i gyd, heb gymorth unrhyw grantiau, gan Kathy ei hun, sydd wedi benthyca’n helaeth ar hyd y ffordd er mwyn gwireddu ei breuddwydion.
Mae Kathy’n teimlo bod arni hi ddyled fawr i’w gwreiddiau Cymreig ac mae hi’n teimlo ei bod hi’n anrhydedd mawr i fedru cyfrannu tuag at ffyniant y diwylliant Cymreig. Ni chafodd ei magu fel Cymraes iaith gyntaf ond mae ei phenderfyniad a’i chariad tuag at yr iaith yn golygu ei bod hi erbyn hyn yn rhugl a hyderus – gallwch ei chlywed yn aml yn cael ei chyfweld yn Gymraeg ar raglenni radio a theledu, ac mae ei brwdfrydedd yn heintus.
Mae’r un brwdfrydedd i’w weld yn ei horiel ym Mhwllheli, lle mae Kathy wedi creu awyrgylch hudolus, gyda’r tegell yn berwi’n dragywydd! Dewch yno i ymlacio a mwynhau’r gymysgedd eclectig ac unigryw o emwaith cyfoes gan gynllunwyr tramor, arddangosiadau ceramig a gweithiau celf gan artistiaid eraill a chasgliad avant-garde o ddillad gan gynllunwyr blaenllaw mewn defnyddiau naturiol a lliwiau’r pridd. O ie, ac mae gwaith diweddaraf Kathy i’w weld yno hefyd.
Felly p’un ai ydych chi’n siarad Cymraeg neu Saesneg, mae Kathy a’i thîm yn edrych ymlaen at eich gweld ac at eich croesawu’n gynnes i’w byd.
KATHY
GITTINS
Press
release for immediate attention
'10
INCREDIBLE YEARS'
Tony Blair is
not the only one reflecting on the past 10 years this month. Can it really be 10 yrs ago that
In fact,
Kathy feels that she owes a deep debt of gratitude to her Welsh roots and that
she is incredibly privileged to be able to contribute to the burgeoning Welsh
language culture. She was not
brought up as a first language welsh speaker, but her determination and passion
for all things Welsh has led her to become confidant and fluent - you can often
hear her being interviewed in Welsh language radio and television, where her
enthusiasm is infectious.
This spirit
carries over to her gallery in Pwllheli, where Kathy has created an enchanting
atmosphere, with the kettle always on the boil! Relax and experience the unique and
eclectic mix of individual pieces of contemporary jewellery by continental
designers, exhibitions of ceramics and other art works by visiting artists and
an avant-garde collection of designer clothing in natural fibres and an earthy
palette. Oh yes, and Kathy's latest
works are also on display.
So whether you speak Welsh or English, Kathy and her team always look forward to seeing you and will be delighted to take the time to welcome you into their fascinating world.